top of page
Prawf ac Asesiad Clyw
Tynnu Cwyr
Cymorth Tinitws

Amdano Ni

Fe hyfforddodd Geraint yn ysbyty’r Royal National Throat Nose and Ear yn Gray’s Inn Road, Llundain, ac yno y cyfarfu â’i ddarpar wraig Jayne. Cymhwysodd y ddau ohonynt fel awdiolegwyr ym 1976 ac fe briododd y ddau'r flwyddyn ganlynol. 

Parhaodd Jayne i weithio i’r GIG, ond gadawodd Geraint i ymuno a’r band gwerin Ar Log fel canwr a gitarydd. Wedi teithio’r byd gyda’r grŵp, penderfynodd ddychwelyd at ei broffesiwn gwreiddiol ac ymuno a chwmni cymorth clyw preifat gan ddechrau gweithio gyda chanolfan glyw David Rees yn Cheltenham. 

Ar ôl i’r cwmni ddod yn rhan o Siemens Hearing ym 1983, symudodd Geraint a Jayne yn ôl i Gymru gyda’u teulu ifanc, Ffion ac Osian.

Sefydlodd Geraint ei fusnes ei hun, Glynne Davies Hearing/Cymorth I’r Clyw ym 1990 a gweithiodd o amrywiol glinigau cyn agor ei Ganolfan Cymorth i’r Clyw yn Llanrwst, sef tref farchnad ei dad - yr awdur, bardd a'r darlledwr T Glynne Davies a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1951.

Cymhwysodd ei ferch Ffion fel Awdiolegydd Cymorth i’r Clyw yn 2005 ac ymunodd â’i thad yn y busnes, ac yna yn 2015, ymunodd ei brawd Osian â’r cwmni.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r ymgynghorydd amlwg ym maes Clustiau Trwyn a Gwddw, sef Mr Zak Hammad FRCS.

Busnes teuluol annibynnol sydd gennym ac rydym yn falch o allu darparu gofal iechyd y clyw gorau posibl.

Gwasanaethau

Asesiad Clyw

Mae’r asesiad gwrandawiad cychwynnol yn cynnwys archwiliad otoscopic o'ch clustiau, yn ogystal â phrawf clyw trylwyr a gwerthusiad. Gallwn wedyn gweld a oes angen cymorth ar eich clyw ac, os yw, mi fyddwn wedyn gallu trafod yr opsiynau sydd ar gael gyda chi cyn penderfynu ar yr ateb gwrandawiad mwyaf addas ar gyfer eich gofynion unigol.

Gwasanaeth Personol

 

Rydym yn deall pa mor anodd yw hi i wneud penderfyniad i wisgo cymorth clywed am y tro cyntaf, felly rydym yn gwneud popeth i leddfu unrhyw bryderon fydd gennych ac i sicrhau eich bod yn rhan o bob cam o'r broses benderfynu

Gwasanaeth Ôl Ofal

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf posibl o'ch cymhorthion clywed, rydym yn cynnig gwasanaeth ol-ofal cyflawn, sy'n cynnwys apwyntiadau rheolaidd i wirio'r offer ac ailraglennu fel bo'r angen. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gosod offer yn llwyddiannus. Mae gennym ddigon o amser a phrofiad i sicrhau fod eich cymhorthion clywed yn parhau i roi'r canlyniadau gorau posibl i chi.  

Tynnu Cwyr

Rydym bellach yn cynnig Gofal Clinigol i’r Glust yn ein Practis. Byddwn yn archwilio’ch clustiau ac yn asesu a oes angen cael gwared ar gwyr neu beidio, gan eich trin neu’n cynghori fel bo’r angen.

Dewch draw neu trefnwch apwyntiad gyda Ffion heddiw! Beth am osgoi rhestr aros y GIG a chael sylw mewn dyddiau! Gallai fod y diwrnod wedyn!

Y pris yw £50 am un glust, £65 i wneud y ddwy.

Amddiffyniad Arbennig Rhag SŴn

Rydym yn cynnig dewis eang o amddiffyniad rhag sŵn – rhai cyffredin a rhai arbennig ar gyfer y cwsmer, lle rhoddir sylw arbennig i’ch anghenion chi, boed hynny ar gyfer beicio modur, saethu, neu fynychu cyngerdd roc hyd yn oed! Cadwch eich clustiau’n ddiogel! Am fwy o fanylion ynglŷn ag Amddiffyn Rhag Sŵn, cysylltwch ar unwaith.
 

Tinitws

Yma i helpu...

Mae Starkey, sy’n arweinydd byd eang ym maes technoleg iechyd y clyw, wedi dyfeisio Datrysiad tinitws newydd allai newid y ffordd y mae pobl yn ymdrin â’r sŵn canu yn eu clustiau am byth.

British Tinnitus Association
British Society of Hearing Aid Audiologist
HCPC

Ein Tim

Ffion Davies Geraint Davies Hearing
Ffion Davies

RHAD MSHAA

Rheolwr Gyfarwyddwr

Ymarferydd Clust Clinigol

Geraint Davies Geraint Davies Hearing
Geraint Davies

RHAD MSHAA

CEO ac Awdiolegydd

Osian Davies Geraint Davies Hearing
Osian Davies

Rheolwr y practis

Goruchwyliwr Technegol

Cymhorthion Clyw

Rydym yn cynnig amrywiaeth fawr o'r cymhorthion clywed digidol diweddaraf gan yr holl gynhyrchwyr blaenllaw i roi'r dewis  posibl o    brisiau ac arddulliau sy'n addas i'ch anghenion unigol chi, beth bynnag yw eich colled clyw a gofynion unigol.

Rydym yn rhoi cyngor proffesiynol, di-rhagfarnllyd ag onest sy'n addas i'ch colled clyw, ffordd o fyw a chyllideb. Mi rydym yn gweithio'n agos gyda cwmniau cymhorthion clyw fwyaf y byd.

Starkey Hearing
Unitron Hearing
Phonak Hearing
Siemens Hearing
Bernafon Hearing
Widex Hearing
Hearing Aids Geraint Davies Hearing

Cysylltwch a Ni

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener 09:30YB – 17:00YH

Dydd Sadwrn Trwy Apwyntiad Yn Unig

Dydd Sul - Ar Gau

Ein Cyfeiriad

8 Heol Yr Orsaf

Llanrwst

Conwy

LL26 0EP

bottom of page